Gan weithio â’r gwasanaeth Llifogydd – Rhybuddio a Hysbysu fel rhan o Dîm Platfform TGCh bydd disgwyl i’r rôl ddarparu cymorth technegol i holl raglenni byw y Gwasanaeth Llifogydd Cenedlaethol a phlatfformau cwmwl o fewn fframwaith Llyfrgell Seilwaith Technoleg Gwybodaeth (ITIL), fel rhan o gynnyrch a model gweithredu tîm platform newydd, i ddarparu gwasanaeth ystwyth rhagorol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gofalu bod iechyd ac argaeledd rhaglenni a systemau yn unol â threfn reoli TGCh.
- Gofalu bod digwyddiadau a cheisiadau am wasanaeth yn cael eu datrys o fewn y cytundebau lefel gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
- Dilyn cynllun gwaith y Tîm Platfform.
- Gweithio gydag Uwch Beirianwyr i ddatrys materion a gwella systemau byw.
- Cynghori a rhoi arweiniad i Ddadansoddwyr a Phrentisiaid o fewn y tîm a’r tu allan.
- Dilyn amserlenni cynnal a chadw a thasgau rhagweithiol a gweithredu uwchraddiadau arferol gwasanaethau.
- Gweithio gyda phartneriaid strategol allanol i sicrhau bod problemau rhaglenni yn cael eu datrys o fewn cytundebau lefel gwasanaeth.
- Rhyddhau gwelliannau i raglenni a gwasanaeth yn unol â threfn reoli TGCh. Cynorthwyo i gydgysylltu ‘profi derbynioldeb i’r cwsmer’ yn achos rhaglenni a gwasanaethau CNC.
- Gweithio â’r uwch beirianwyr i ddatblygu a gwella rhaglenni sy’n bodoli eisoes yn unol â methodoleg ddatblygu TGCh.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o gefnogi Office 365/Microsoft Dynamics 365/SharePoint Rhaglenni ar-lein/y we/pecynnau masnachol parod
- Profiad o weithio mewn Amgylchedd Cwmwl Cyhoeddus.
- Dealltwriaeth o gefnogaeth a datblygiad rhaglenni gyda’r technolegau canlynol: Azure PaaS, HTML 5, CSS, C#, MS SQL a Power Shell
- Gwybodaeth o Fframwaith Rheoli Gwasanaeth ITIL
- Profiad ymarferol o fethodolegau cylch bywyd rhaglenni.
- Profiad o brosesau rheoli Digwyddiadau, Problemau, Newidiadau a Rhyddhau.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.