Mae’r Tîm Gweithgareddau Coedwig yn gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gynaliadwy i fodloni achrediad dan Gynllun Sicrwydd Coetir y DU ac ISO14001 ac i gyflawni Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol. Mae’r tîm yn rheoli coetiroedd Llywodraeth Cymru yn ardal ddeheuol y Canolbarth (Gorllewin) sy’n ymestyn o Aberystwyth yn y gorllewin i Lanymddyfri yn y dwyrain. Mae’r rhain yn cynnwys cymysgedd o flociau ucheldirol ac iseldirol gan gynnwys gogledd a chanolbarth Tywi, Cwm Berwyn, Llanbedr Pont Steffan, Cross Inn, Tarenig, Myherin a Chwm Ystwyth.
Mae rôl yr Uwch Swyddog yn allweddol ar gyfer datblygu cynlluniau tactegol i gyflawni rhaglenni gweithredol blynyddol. Bydd gofyn gweithio’n agos â thimau o fewn CNC yn ogystal â chyflenwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni ar amser a hefyd eu bod yn bodloni’r safonau ansoddol ac yn rhoi gwerth am arian.
Disgwylir i’r unigolyn wneud y canlynol:
- Datblygu cynlluniau pum mlynedd tactegol a fydd yn cynnwys llwyrgwympo, teneuo yn ogystal ag addasu i ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith, ailstocio, rhaglenni sefydlu a chynnal a chadw.
- Cynhyrchu proffiliau cyllideb blynyddol mewn cydweithrediad â’r Arweinydd Tîm ac adrodd yn rheolaidd ar y cynnydd.
- Asesu Cynlluniau Adnoddau Coedwig strategol arfaethedig i sicrhau bod ystod eang o amcanion yn cael eu gweithredu i fodloni Safon Coedwigaeth y DU.
- Cefnogi’r tîm ehangach o ran rheoli gweithrediadau pan fo angen.
- Cymryd cyfrifoldeb dros reoli data isadrannol.
- Rheoli prosiectau penodol pan fo angen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arddangos ei fod yn llawn cymhelliant a bod ganddo syniadau arloesol.
Os hoffech ymweld â’r safle i drafod y rôl yn ogystal â gweld yr amgylchedd gwaith, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Rhaid cael trwydded yrru lawn y DU.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithredu fel arweinydd technegol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer sectorau neu faterion technegol penodol.
- Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith tîm a gweithredu unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio busnes. Lle y bo’n briodol, gweithredu fel arweinydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer sectorau penodol technegol.
- Bydd yn ofynnol i gymryd rhan yng ngrwpiau technegol/strategol Cyfoeth Naturiol Cymru neu gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ar fforymau allanol.
- Rhyngweithio ag arbenigwyr eraill yn Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn hyrwyddo arferion cyson y diwydiant a phynciau arbenigol.
- Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol am gyflawni rhaglenni a ddirprwywyd a rheoli cyllidebau y cytunwyd arnynt, yn cynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a glynu at y broses gaffael.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Aelodaeth broffesiynol, neu o leiaf yn gweithio tuag at yr achrediad o’r pwnc perthnasol, o fewn amserlen y cytunir arni.
- Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
- Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnesau masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o bob agwedd ar arferion coedwigoedd, gan gynnwys cynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwigoedd.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder – Bydd ceisiadau i’r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a’r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi’ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.