Dros y misoedd diwethaf mae partneriaid allweddol wedi bod yn brysur yn datblygu’r camau nesaf ar gyfer gwasanaeth natur cenedlaethol i Gymru.
Nod Gwasanaeth Natur Cymru yw darparu llwyfan ar gyfer darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen ar gyfer economi sy’n seiliedig ar natur drwy gysylltu pobl o bob oed â chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, prentisiaethau, cyflogaeth, menter a gwirfoddoli sy’n seiliedig ar natur.
Byddem yn croesawu eich presenoldeb yn y digwyddiad rhithiol hwn er mwyn i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hyd yma, amlinellu y camau nesaf, yn ogystal â chasglu eich barn ar gynlluniau’r dyfodol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 2 a 3yh ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2023.
I fynychu ar y diwrnod cofrestrwch eich diddordeb yma: Gwasanaeth Natur Cymru