DIGWYDDIAD: Adeiladu sylfeini mudiad cenedlaethol

Rhag 16, 2024

Nsw Eventbrite 3

Adeiladu sylfeini mudiad cenedlaethol

10:00yb – 3:30yp, Dydd Mawrth 4 Chwefror 2025

Prif Neuadd Pierhead, Adeilad Pierhead, Bae Caerdydd CF10 4PZ

Wedi’i Gadeirio gan: Peter Davies, Cyd-Gadeirydd Gwasanaeth Natur Cymru
Noddir gan: Llŷr Gruffydd AS, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Ymunwch â ni i gofnodi cyfnod newydd yn natblygiad Gwasanaeth Natur Cymru, wrth i ni ffurfioli ein mudiad cydweithredol yn enw adfywio natur ar draws Cymru

Mae’r hyn a ddechreuodd fel gweledigaeth gytûn ymysg sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector nawr yn dechrau gweithredu – gan sefydlu’r llywodraethiant, y partneriaethau, a’r cynlluniau a fydd yn ffurfio sylfeini Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru.

Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfle i ddysgu mwy ynghylch ein gwaith ac i lywio ein cynlluniau sy’n ceisio:

  •  Adeiladu’r sgiliau a’r gallu sydd ei angen i ryddhau’r potensial ar gyfer miloedd o swyddi adfywio natur ar draws Cymru yn y dyfodol.
  • Mynd i’r afael â’r argyfwng parhaol drwy rymuso dinasyddion o bob math o gefndiroedd gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i adfywio natur tra’n meithrin llesiant drwy gyfrwng profiadau go iawn.
  • Angori llythrennedd natur ar draws Cymru i sicrhau bod ein dinasyddion i gyd yn deall ac yn gwarchod y systemau naturiol sy’n hanfodol i fywyd a gwytnwch cymunedol.

I archebu lle ar y diwrnod ewch i’r dudalen Eventbrite: Gwasanaeth Natur Cymru RSVP erbyn 24 Ionawr 2025.

Am ragor o wybodaeth gweler papur yma: Diweddariad Gwasanaeth Nature Cymru – Rhagfyr 2024

Skip to content