Mae cyllid newydd wedi ei sicrhau i ddatblygu Y Gwasanaeth Natur / The Nature Service – menter newydd sy’n cysylltu pobl o bob cefndir â chyfleoedd i gymryd rhan mewn adfer natur ledled Cymru.
Gyda chefnogaeth o dros £460,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth bresennol gan Sefydliad Esmée Fairbairn, caiff Y Gwasanaeth Natur ei sefydlu fel hunaniaeth genedlaethol ddibynadwy, gan gysylltu pobl â llwybrau addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli a gyrfaol sy’n cefnogi adferiad natur a’r ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Cymru yw un o’r gwledydd sydd wedi’i disbyddu fwyaf yn y byd o ran natur, gan arwain at ganlyniadau i systemau bwyd, gwytnwch economaidd a lles. Mae ymchwil ymysg phobl ifanc yn dangos diddordeb cryf mewn gyrfaoedd a llwybrau sy’n seiliedig ar natur, ond ymwybyddiaeth isel o sut i gael mynediad atyn nhw. Bydd y cyllid hwn yn canolbwyntio ar wneud y cyfleoedd presennol yn fwy gweladwy a hygyrch.
Mae’r gwaith o ddatblygu’r Gwasanaeth Natur eisoes wedi dechrau ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau a’i lansio yng Ngwanwyn 2027. Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru lansio Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru, a fydd yn cyflwyno rhaglen weithredu traws-lywodraethol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur fel un her gysylltiedig.
Dywedodd Cyfarwyddwr Y Gwasanaeth Natur, Daniel Lock: “Mae’r Gwasanaeth Natur yn adeiladu mudiad cenedlaethol ar gyfer adfer natur, gan ddod â sefydliadau ledled Cymru at ei gilydd i weithredu ar y raddfa sydd ei hangen. Mae adfer cynefinoedd naturiol Cymru yn ran hanfodol o’r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac rydym yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o sut mae’r ddau fater hyn mor gysylltiedig. Credwn fod gan Y Gwasanaeth Natur ran bwysig iawn i’w chwarae yn nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd sero net erbyn 2040 ac adfer natur yn sylweddol erbyn 2050.”
Gan weithio gyda phartneriaid ledled Cymru, bydd Y Gwasanaeth Natur yn datblygu gwefan a chyfeirlyfr cenedlaethol – porth clir ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddiant, addysg a gyrfa gynnar sy’n gysylltiedig ag adfer natur. Bydd ymgyrch gyfathrebu ac ymgysylltu sydd wedi ei chydlynu yn tynnu sylw at lwybrau go iawn sy’n arwain at waith yn seiliedig ar natur, ac yn helpu i greu ymdeimlad cryfach o fudiad cenedlaethol sy’n gwasanaethu natur.
Drwy bartneriaeth ymchwil arloesi gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru, bydd Y Gwasanaeth Natur yn archwilio modelau i sicrhau bod gan bob person ifanc yng Nghymru fynediad at brofiad ystyrlon sy’n seiliedig ar natur, a sut y gellir cydnabod cyfranogiad er mwyn cefnogi symud ymlaen i ddysgu pellach, hyfforddiant a chyflogaeth.
Gyda’i gilydd, bydd y gwaith hwn yn cryfhau’r cyfranogiad, y sgiliau a’r capasiti gweithlu sydd eu hangen i adfer ecosystemau a threftadaeth naturiol Cymru.
Mae’r Gwasanaeth Natur yn cynrychioli camau cynnar platfform cenedlaethol hirdymor. Wedi’i gynnal yn y camau cyntaf gan y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad, y bwriad yw sefydlu endid cyfreithiol annibynnol o fewn y 18 mis nesaf. Mae eisoes wedi ei grybwyll yn Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru fel enghraifft sy’n dod i’r amlwg o’r seilwaith galluogi sydd ei angen i gefnogi’r newid hwn.
Anogir sefydliadau sydd â diddordeb mewn cydweithio gyda’r Gwasanaeth Natur, neu dynnu sylw at gyfleoedd perthnasol drwy’r platfform sydd ar y gweill, i gysylltu â ni wrth i’r cam nesaf hwn ddechrau.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Natur, Daniel Lock:
“Nid her amgylcheddol yw adfer natur yn unig – ond un ddynol.
Heb y sgiliau, y gweithlu a’r ymgysylltiad cyhoeddus i gyflawni’r adferiad, ni fydd ein huchelgeisiau ar gyfer adfer natur, gwydnwch rhag yr hinsawdd a swyddi gwyrdd da yn cael eu gwireddu. Mae’r cyllid hwn yn ein galluogi i ddechrau adeiladu’r platfform sy’n helpu mwy o bobl o bob cefndir i gymryd rhan, fel y gall Cymru adeiladu’r gallu sydd ei angen i wynebu’r her enfawr hon.”
Dywedodd Sue Pritchard, Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad a chyd-gadeirydd Bwrdd Datblygu Y Gwasanaeth Natur:
“Mae’r Gwasanaeth Natur yn adlewyrchu cydnabyddiaeth gynyddol y bydd adfer natur ar raddfa dim ond yn digwydd os ydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Mae sefydliadau ledled Cymru eisoes yn creu cyfleoedd i bobl ddysgu, gwirfoddoli ac adeiladu gyrfaoedd yn y maes hwn – fel mudiad cenedlaethol gweladwy, mae’r Gwasanaeth Natur yn helpu i ddod â’r ymdrechion hyn at ei gilydd. Rydym yn falch iawn o gefnogi’r cam nesaf hwn a’r bartneriaeth gynyddol sy’n ei gwneud yn bosibl.”
John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Rwy’n falch iawn o weld y fenter hon yn datblygu – mae ganddi’r potensial i gael effaith gadarnhaol sylweddol. Nid yn unig wrth ddod â sefydliadau at ei gilydd i gryfhau adferiad natur ledled Cymru, ond hefyd i sicrhau bod ystod amrywiol o gymunedau yn gysylltiedig â’r ymdrech hynod bwysig hon. Rwy’n falch bod pobl ifanc yn ffocws arbennig – mae cysylltu pobl ifanc â chyfleoedd sy’n seiliedig ar natur a gyrfaoedd gwyrdd yn rhywbeth yr ydym yn falch o’i gefnogi fel Cronfa. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn barhau i gefnogi prosiectau sy’n helpu ein hamgylchedd naturiol ac sydd o fudd i bobl ar draws ein cymunedau.”
