Diolch yn fawr am ddangos diddordeb yn y lleoliad hwn gyda Newydd i Natur. Mae Newydd i Natur yn rhaglen gyffrous o leoliadau gwaith cyflogedig mewn rolau sy’n canolbwyntio ar natur.
Mae hon yn un o 70 o rolau a fydd yn cael eu creu ar draws y DU i ddenu doniau ifanc ac amrywiol i’r sector Amgylchedd Naturiol.
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl ifanc (18-25 oed) sy’n dod o gefndiroedd ethnig amrywiol, sy’n byw ag anabledd neu sy’n dod o aelwydydd incwm isel.
Byddwch yn cael cyflog da ar leoliad sy’n helpu’r amgylchedd, yn dysgu llwyth o sgiliau i roi hwb i’ch CV ac yn cael cymorth gan Hyfforddwr Cyflogaeth Ieuenctid i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa i’r dyfodol. Bydd cyfleoedd hefyd i ddysgu am yrfaoedd posibl yn yr amgylchedd naturiol, ac (os oes gennych chi awydd) cysylltu â’r bobl ifanc eraill sy’n gweithio mewn rolau gyda Newydd i Natur ar hyd a lled y wlad.
Dyma gyfle unigryw i roi cynnig ar rywbeth newydd, ac i gymryd y cam cyntaf ar lwybr gyrfa lle gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn. Mae eich angen chi ar yr amgylchedd naturiol!
Gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni ar y daith gyffrous hon!
GWYBODAETH AM RSPB Cymru
Pwy ydym ni
Yr RSPB yw’r elusen cadwraeth byd natur fwyaf yn y DU, ac rydym yn sicrhau cadwraeth lwyddiannus yn gyson, yn creu partneriaethau newydd pwerus gyda sefydliadau eraill ac yn ysbrydoli eraill i weithredu ac i roi cartref haeddiannol i fyd natur.
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw creu byd sy’n fwy cyfoethog o ran byd natur. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd mewn adar a byd natur i ddarparu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r argyfwng hinsawdd a byd natur, gan helpu pobl i fyw’n dda mewn cytgord â byd natur. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i gadw rhywogaethau cyffredin yn gyffredin, i adfer rhywogaethau sydd dan fygythiad, i ddiogelu ac adfer lleoedd arbennig, ac i ysbrydoli a galluogi pawb i weithredu dros fyd natur.
Ein pwrpas
Rydym yn gweithio i hybu cadwraeth adar, bywyd gwyllt arall a byd natur, drwy warchod ac adfer cynefinoedd a thirweddau, achub rhywogaethau a chysylltu pobl â natur. Rydym yn gwneud gwaith cadwraeth y gallwch ei weld o’r gofod, wedi’i adeiladu o’r ddaear i fyny. Rydym yn credu fod y blaned yn wynebu argyfwng hinsawdd a byd natur a bod gennym ddyletswydd foesol i adael byd natur mewn sefyllfa well i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn credu fod gan bob rhywogaeth hawl i fodoli, a bod natur yn hanfodol i iechyd a lles pobl. Mae gennym ddyletswydd foesol i adael byd natur mewn sefyllfa well i genedlaethau’r dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth am yr RSPB, ewch i: rspb.org.uk/
PROSES RECRIWTIO
DISGRIFIAD O’R SWYDD
Ydych chi’n frwd dros ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i adrodd straeon? Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu sgiliau cyfathrebu a marchnata ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol?
Mae gennym gyfle cyffrous i berson ifanc a fyddai’n hoffi defnyddio a datblygu ei sgiliau digidol ochr yn ochr â thîm cyfathrebu RSPB Cymru i greu cynnwys ysbrydoledig a diddorol ar gyfer ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn dod â’ch syniadau a’ch creadigrwydd eich hun i’n hymgyrchoedd cyfathrebu allweddol drwy gydol y flwyddyn.
Fel Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol, byddwch yn:
- Cefnogi’r Swyddog Cyfathrebu i greu cynnwys diddorol a llawn gwybodaeth ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo gwaith, ymgyrchoedd a newyddion RSPB Cymru i gynulleidfaoedd ar draws Cymru. Gallai hyn fod yn helpu i hyrwyddo’r arolwg Gwylio Adar yr Ardd neu helpu i drefnu bod pobl ifanc yn cymryd rhan yn ein cyfryngau cymdeithasol.
- Cyfathrebu gan ddefnyddio gwerthoedd a chanllawiau brand yr RSPB i sicrhau bod brand yr RSPB yn cael ei gyflwyno’n gyson ac yn gywir.
- Meithrin perthynas dda a chyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau allanol, i wneud yn siŵr bod RSPB Cymru yn cael ei chynrychioli mewn ffordd gadarnhaol.
- Monitro’r cyfryngau cymdeithasol a helpu i werthuso beth mae dilynwyr yn ymateb iddo a sut gallwn ni wella yn y dyfodol.
- Trwy weithio gyda’n tîm cyfathrebu byddwch yn dysgu llawer am wahanol rannau o’n gwaith, megis ein hymgyrchoedd a’n digwyddiadau neu ein gwaith i achub natur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gefnogi, cysgodi a dysgu gan dimau eraill sy’n gweithio yng Nghymru. Bydd y swydd hon yn ffordd wych o ddatblygu eich sgiliau ar gyfer gyrfa ym maes cyfathrebu neu farchnata yn y dyfodol.