Sut beth yw swydd werdd?
Gellir dod o hyd i swyddi gwyrdd mewn ystod eang o ddiwydiannau gwahanol ac weithiau nid yw teitlau swyddi’n esbonio beth mae’r rôl yn ei olygu o ddydd i ddydd. Buom yn siarad â phobl sy’n gweithio ar draws y sectorau sgiliau tir a natur, i ddarganfod sut beth yw’r gwaith, y tu ôl i deitlau’r swyddi, a sut y cyrhaeddon nhw yno.
“Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn hanfodol – oni bai ein bod ni’n gallu ailgysylltu pobl â thir a natur, fel sylfaen, dydyn ni byth yn mynd i gyrraedd unman. Ond mae ‘na gyn lleied o’r swyddi yma o gwmpas. Mae angen mwy o’r rolau hyn arnon ni, a gwell dilyniant gyrfa hefyd. Mae pobl ifanc eisiau cael swydd sydd ag ystyr.”
— Dan Lock, Cynullydd Tirwedd, Diwylliant a Hunaniaeth, Parc Rhanbarthol y Cymoedd, De Cymru
Porwch trwy deitlau swyddi
Darllenwch astudiaethau achos
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, darllenwch yr astudiaethau achos manwl isod.
Gwirfoddoli: llwybr at waith
Mae gan Luke awtistiaeth, ac nid oedd ganddo unrhyw brofiad blaenorol o waith amgylcheddol awyr agored. Sut wnaeth gwirfoddoli roi hwb i’w hyder a’i helpu i ddod o hyd i lwybr at waith?
Dod yn geidwad dan hyfforddiant gyda Kickstart
Mae Rhys wedi bod yn gweithio gyda Groundwork Cymru fel rhan o Gynllun Kickstart Llywodraeth y DU – darganfyddwch sut beth yw bod yn rhan o’r cynllun, a ble mae’n gobeithio mynd â’i brofiad.
Sgiliau ymarferol i lansio gyrfa
Defnyddiodd Rachel wirfoddoli i adeiladu ei sgiliau ymarferol, o adeiladu ffensys i gynnal a chadw llwybrau, ac erbyn hyn mae ganddi waith fel ceidwad parc.